|
Comisiwn y Cynulliad |
|
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Iau, 26 Medi 2013 |
|
|||
|
Amser: |
13:00 – 13:30 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: AC(4)2013(13) |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Yn bresennol: |
|
Sandy Mewies (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd
|
|||
|
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriad gan y Llywydd. Cytunwyd y byddai Sandy Mewies AC yn Cadeirio'r cyfarfod.
Diolchwyd yn arbennig i Syr George Reid am ei gyfraniad arbennig fel Cadeirydd Bwrdd Taliadau'r Cynulliad a dymunodd y Comisiwn y gorau iddo.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion.
2 Chyllideb Ddrafft 2014-15
Roedd angen gosod cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan bellaf. Mewn cyfarfodydd blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio'r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn, fel y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn ym mis Hydref 2011 a 2012.
2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng nghyllidebau'r ddwy flynedd flaenorol.
Roedd gwaith wedi'i wneud dros yr haf i adolygu'r ddogfen yn unol ag awgrymiadau'r Comisiynwyr.
Roedd Angela Burns wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn gofyn iddi gytuno i'r Comisiwn baratoi dim ond cyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16 yn y Gyllideb ddrafft hon, a hynny oherwydd amserlen Adolygiad o Wariant y DU. Hefyd, teimlai'r Comisiynwyr y byddai'n briodol parhau i ganolbwyntio ar amserlen fyrrach ar gyfer y flwyddyn ddilynol (2016-17) gan y byddai hynny'n caniatáu i Gomisiwn y Pumed Cynulliad baratoi ei gynlluniau ei hun ar gyfer gwahanol gyfnodau.
Byddai Angel Burns, Claire Clancy a Nicola Callow yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 3 Hydref.
Cytunwyd ar y gyllideb ddrafft a byddai'n cael ei gosod y prynhawn hwnnw. Byddai'r Comisiwn yn ystyried unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid cyn gosod y ddogfen i'r Cynulliad ei hystyried ym mis Tachwedd.
Cafodd Nicola Callow ei chanmol gan y Comisiynwyr am ei gwaith arbennig yn gysylltiedig â'r gyllideb a diolchwyd iddi hi ac Angela Burns am eu hymdrechion wrth iddynt gwblhau'r drafft.
3 Unrhyw Fusnes Arall
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2013